Mae gan bob un ohonom ein hoff bethau, ein cas bethau, ein hobïau a'n diddordebau. Rydym i gyd yn wahanol, a dyna sy’n gwneud bywyd yn ddiddorol. Yn Sir y Fflint, rydym yn adnabod pawb am eu hunaniaeth ac mewn gofal cymdeithasol, rydym yn anelu i wneud gymaint â phosib fel eich bod yn aros yn annibynnol, gwneud dewisiadau ac yn mwynhau'r pethau rydych yn eu gwneud. Gelwir hyn yn ‘gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn’.
Nod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yw rhoi llais i’r rheiny sy’n derbyn gofal a chefnogaeth, a mwy o reolaeth dros eu gofal. Mae hyn yn golygu eich bod yn bartner cyfartal yn y gofal rydych yn ei dderbyn, a byddwn yn cydweithio gyda chi i symud tuag at y canlyniadau rydych eisiau eu cyflawni. Byddwn yn trafod y pethau sydd o bwys i chi, a chael sgwrs am ‘Beth sy’n Bwysig’. Byddwn hefyd yn gweithio gyda’ch teulu a’r bobl rydych yn eu hadnabod orau.
Mae sgwrs ‘Beth sy’n Bwysig’ yn cynnwys dod i wybod mwy am 5 peth allweddol:
- eich amgylchiadau
- eich canlyniadau personol neu beth rydych yn ddymuno ei gyflawni neu ei newid
- unrhyw rwystrau sy’n eich atal rhag cyflawni’r canlyniadau hynny
- beth yw’r peryglon i chi neu eraill os nad yw’r canlyniadau hynny’n cael eu cyflawni
- eich cryfderau a'ch gallu
Rydym yn gweithio’n agos gyda’r rheiny sy’n darparu Cefnogaeth Cartref, Cartrefi Gofal a Chartrefi Nyrsio i sicrhau eu bod yn eich rhoi chi at galon yr holl waith maent yn eu gwneud. Mewn gwirionedd, mae’n amod yn y contractau sydd gennym gyda'n darparwyr i gyd, ac mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (CSSIW) nawr yn archwilio hyn mewn proses newydd.
Wedi’r cyfan, dyma’ch bywyd chi, a dylech gael mwynhau'r pethau sy’n bwysig i chi.
Wedi ei bostio ar 08 March 2018